Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Mawrth 2018
Amser:
14.06 -
15.23
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru Matthew Mortlock Nick Selwyn Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, a oedd yn egluro nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 5 Chwefror.
3.2 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad. Nodwyd bod y Clercod yn paratoi adroddiad drafft i'w ystyried.
4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar system wybodeg GIG Cymru.
4.2 Roedd yr Aelodau eisoes wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn. Nodwyd y byddai sesiynau tystiolaeth yn cael eu trefnu ar gyfer dechrau tymor yr haf.
4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar addasiadau tai.
5.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn yn ystod tymor yr haf. Cytunwyd y byddant yn cysylltu â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau er mwyn sicrhau na fydd yr ymchwiliad hwn yn gorgyffwrdd ag unrhyw ymchwiliad y bydd y Pwyllgor hwnnw yn ei gynnal.
6.1 Trafododd yr Aelodau y rhaglen waith ar gyfer tymor yr haf cyn cytuno arni.